Imágenes de páginas
PDF
EPUB

Y

CENHADWR AMERICANAIDD:

YN CYNWYS

BYWGRAFFIADAU, DUWINYDDIAETH,

Hanesyddiaeth Eglwysig a Gwladol,

ANIANYDDIAETH, AMAETHYDDIAETH,

YNGHYD A

NEWYDDION AMERICANAIDD A THRAMOR:

HEFYD, CYFANSODDIADAU MEWN

BARDDONIAETH A PHERORIAETH.

CYHOEDDEDIG GAN WEINIDOGION YR EGLWYSI CYNULLEIDFAOL.

"BOD YR ENAID HEB WYBODAETH NID YW DDA."

CYFROL I.

UTICA:

ARGRAFFWYD DROS Y CYHOEDDWYR GAN R. W. ROBERTS, 58 HEOL GENESEE.

1840.

[merged small][ocr errors][merged small][merged small]

RHAG-GYFARCHIAD.

ANWYL GYFEILLION A CHYDWLADWYR :

Wrth ddweyd ychydig mewn dull o Ragymadrodd i'r Gyfrol hon, dymunem yn y lle cyntaf gydnabod gyd a gostyngeiddrwydd a chlodforedd law yr Arglwydd tuag atom, yn ein dwyn ymlaen, yn y modd y gwnaeth hyd yma. Cawsom hyfrydwch mawr yn y gwaith; cawsom dderbyniad lled gyffredinol ; a lle i hyderu na bu ein llafur yn gwbl ofer yn yr Arglwydd, ond fod darlleniad ein Rhifynau wedi bod o ryw faint o adeiladaeth a chysur i lawer o eneidiau. Yr oedd y gwaith yn newydd i ni, ac anhawsderau yn cyfodi yn fynych; ond yr oedd gwobr yn y llafur a'r drafferth gyd ag ef fwy nag a ddysgwyliasom. Ein diffygiadau a'n colliadau (pa rai yn ddiau nid ydynt anaml) erfyniwn ar eu bod yn cael eu cuddio â mantell cariad.

Yr ydym yn dychwelyd ein diolch gwresocaf i'n cyfeillion ymhell ac yn agos am eu gohebiaethau. Ac ystyried mai y flwyddyn gyntaf o'n hanturiaeth yw, derbyniasom fwy o gymorth nag a ddysgwyliasom yn y modd yma. Gellir gweled wrth gyfeirio at amrai o'r ysgrifau fod genym ffrwyth llafur dwys a duwiol fyfyrdodau, yn werth eu darllen a'u hystyried.

Ein hamcan syml ydoedd rhoddi allan bethau buddiol ar wahanol ganghenau gwybodaeth, a hyny mewn ysbryd tyner ac addfwyn; a thrwy gymorth oddi uchod, hyny gaiff fod ein hamcan eto. I bwy raddau y llwyddasom yn hyn, bydd i'r cyhoeddus farnu. Dysgwyliwyd, efallai, mai i ryfel y daethom allan; ond nid hyny ydoedd nac yw ein dyben. Da a hyfryd genym gyd lafurio â brodyr yn yr Arglwydd yn erbyn pob annuwioldeb ac anfoesoldeb o fewn y tir; a gobeithio yr ydym yn fawr gallu gwneyd rhyw ran gyd ag ereill tu ag at feithrin ysbryd cariad a thangnefedd ymhlith Israel Duw. Ein harwydd air gaiff fod o hyd, Heddwch, heddwch i bell ac i agos. Yindrechwn egluro yn ffyddlawn, hyd y mae ynom, beth yw egwyddorion y Bibl ar amrywiol ganghenau yr athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb, ac yn neillduol ar RAS Duw a CHYFRIFOLIAETH DYN. Ond ceisiwn wneyd hyny mewn addfwynder, gan ein bod yn cwbl gredu mai felly y mynai ein Meistr mawr i ni wneyd; a hyderwn y bydd addfwynder a llareidd-dra a thynerwch yr efengyl (fel yr olew ar ben Aaron yn disgyn ar hyd ymyl ei wisgoedd ef) yn dynodi ysgrifau ein Gohebwyr yn gyffredinol.

Ac yn awr, Anwyl Gyfeillion, goddefwch i ni, yn ein Rhag-Gyfarchiad hwn, ddweyd gair yn fyr iawn er eich hanog i gyd gynal ymlaen FODDION GWYBODAETH yn ein plith fel cenedl yn America eang.

iv

Rhag-Gyfarchiad.

Mae gwybodaeth o werth mawr. Penaf peth yw Doethineb. Pethau tra buddiol a ellir eu holrhain o dro i dro ar faterion Anianyddol, neu weithredoedd yr Arglwydd-ar achosion Amaethyddol neu y dull mwyaf llesol o lafurio y ddaear yr hon a roddodd efe i feibion dynion-ar helyntoedd dynolryw yn y byd cynhyrfus hwn-ac ar ledaeniad efengyl tangnefedd dros y byd-ac y mae yn druenus i neb o honom fod yn ymddifad o'r wybodaeth am y pethau hyn, pan y mae y moddion o fewn ein cyraedd ac i'w gael ar dilerau mor esmwyth.

Ysbryd yr oes yr ydym yn byw ynddi ydyw ymdrechu cynyddu ac ymhelaethu gyd â golwg ar wahanol bethau. Ar gynydd y mae dynolryw yn myn. ed yn lled gyflym yn y Celfyddydau a'r Gwybodaethau, ac ar gynydd y mae achos yr efengyl yn myned. Pethau rhyfedd a gymerant le ymhlith dynolryw rhai a ddarostyngir o'u gorseddfeingciau, ac ereill a gyfodir iddynt— egwyddorion rhyddid a gynyddant-rhyfeloedd a son am ryfeloedd a glywir mewn manau-drysau newyddion a agorir i'r efengyl, trwy hyn oll, gan law ddoeth a daionus Llywydd y Byd-Ac oni ddylem ninau wybod y pethau hyn-A chan mai ymlaen y mae y byd yn myned, awn ninau ymlaen hefyd.

Y mae cynydd mewn gwybodaeth yn tueddu i helaethu ein defnyddioldeb, trwy agor o flaen ein meddyliau faesydd newyddion i lafurio ynddynt, a thrwy ein haddurno a chymwysderau i'r gwaith.

Yr ydym yn ymddifaid o lawer o foddion gwybodaeth a fwynheir gan ein cenedl yn Nghymru; ond trwy ymdrech i gynal ymlaen Gyhoeddiadau misol, gallwn gael sylwedd y pethau a gyhoeddir yno, a bod yn foddion hefyd i drosglwyddo iddynt hwythau yn ol rai trysorau gwerthfawr allan o gyfryngau gwybodaeth a gyhoeddir yn y wlad hon.

Nid ydym fel cenedl mewn cydmariaeth ond ychydig ac anaml, a gwasgaredig yn y wlad: ond trwy ffyddlon gyd ymdrechiadau, gallwn yn rhwydd gynal ymlaen y moddion gwerthfawr yma.

Bydd y pethau a gyhoeddir yn awr o werth i'r oes a ddel. Trwy gyfeirio mewn amser dyfodol at yr hyn a gyhoeddir yn awr, gellir cael hanes mwy cywir am agwedd pethau yn yr oes bresenol; a phwy a wyr na bydd rhai yn tynu addysgiadau buddiol—yn cael cefnogaeth i fyned ymlaen mewn gwaith da ac yn tynu cysuron gwerthfawr idd eu heneidiau o rai ysgrifau a gyhoeddir yn y dyddiau yma; ie pan y byddom ni a'n penau yn isel dan briddellau y dyffryn.

Deallwn fod rhai teuluoedd a phersonau neillduol yn bwriadu rhwymo y Gyfrol yn llyfr ar ddiwedd y flwyddyn. Da fyddai i bawb gadw y Rhifynau yn ofalus idd eu rhwymo pan byddo yn gyfleus gwneyd hyny.

Y CYHOEDDWYR.

Rhagfyr, laf, 1840.

[merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][ocr errors][merged small][ocr errors][ocr errors][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][ocr errors][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][ocr errors][ocr errors][ocr errors][ocr errors][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][ocr errors][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors]
« AnteriorContinuar »